Menu

View in English

PAM DOD I HAIMWOOD?

Efallai eich bod chi eisiau rhoi cynnig ar saethu. Ewch amdani – rydych chi’n siŵr o fwynhau eich hun!

Efallai eich bod chi eisiau dysgu saethu neu gael gwybod beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi'n mynd i'ch cyrch saethu ffurfiol cyntaf. Efallai eich bod chi eisiau gloywi’ch sgiliau cyn y tymor, neu gael ambell gynnig i ymarfer. Beth bynnag rydych chi ei eisiau, mae ein tîm profiadol a chyfeillgar wrth law i wneud eich ymweliad yn ddifyr ac yn addysgiadol.

MENYWOD, PLANT, Y RHEINY SY’N RHOI'R CYNNIG CYNTAF ARNI AC SY’N NEWYDD I’R GAMP.

Mae ein staff yn brofiadol iawn ac yn gallu hyfforddi’r rheiny sy’n rhoi’r cynnig cyntaf arni ac sy'n newydd i'r gamp. Rydyn ni’n dewis o ddetholiad o ynnau a ffrwydron i gael y cyfuniad sy’n ddelfrydol i saethwr penodol. Mae targedau’n cael eu dewis fel eu bod nhw’n cyfateb i allu pob saethwr.